Cefndir

Hanes y fersiwn digidol

Yn 2007 sicrhaodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg drwydded gan Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones, golygyddion Geiriadur yr Academi i gyhoeddi fersiwn digidol o’r Geiriadur. Y bwriad wrth gyhoeddi fersiwn digidol yw sicrhau bod yr adnodd hollbwysig hwn ar gael yn hawdd i bobl sy’n siarad, yn darllen ac yn ysgrifennu’r Gymraeg yn feunyddiol ac i ddangos cyfoeth mynegiant yr iaith i’r rheini sy’n ei dysgu.

Geiriadur Saesneg i’r Gymraeg yw Geiriadur yr Academi. Er mwyn paratoi’r fersiwn digidol hwn rhoddwyd cofnodion y Geiriadur mewn cronfa ddata. Bydd hyn yn hwyluso ymchwilio o fewn corpws y Geiriadur ac fe fydd maes o law yn hwyluso cyhoeddi Geiriadur Cymraeg i’r Saesneg, a fersiynau llai o’r Geiriadur pe bai dymuniad i wneud hynny ac yn unol â chaniatâd y golygyddion.

Ar hyn o bryd darperir yr adnodd hwn am ddim ar y we i ddefnyddwyr yn unol â’r telerau defnyddio. Dylid nodi bod y gwaith o brawfddarllen rhai cofnodion yn parhau. Os cewch anhawster â rhai cofnodion neu os ydych yn dymuno trafod y fersiwn digidol hwn o’r Geiriadur, gofynnwn ichi anfon neges at y cyfeiriad canlynol: post@byig-wlb.org.uk

Ar 1Ebrill 2012 trosglwyddir y drwydded i gyhoeddi’r fersiwn digidol hwn i Gomisiynydd y Gymraeg.