Telerau defnydd

Telerau ac amodau

Noder: adolygwyd a diweddarwyd y telerau defnydd ar 04 Mai 2018

Rhaid derbyn y telerau ac amodau canlynol er mwyn defnyddio’r wefan hon. Nodwch hefyd ein defnydd o gwcis, gwelwch isod.

Cewch, ar gyfer eich defnydd personol eich hun:

  1. Chwilio, gweld a dangos rhannau o Geiriadur yr Academi ar-lein.

Ni chewch wneud y canlynol:

  1. Dileu neu newid yr hysbysiadau hawlfraint neu unrhyw fodd arall o adnabyddiaeth neu ymwadiadau sy’n ymddangos yn Geiriadur yr Academi ar-lein;
  2. Cadw, rhannu, dosbarthu neu argraffu unrhyw ran o Geiriadur yr Academi ar-lein ar gyfer unrhyw bwrpas;
  3. Dangos unrhyw ran o Geiriadur yr Academi ar-lein ar unrhyw rwydwaith electronig gan gynnwys, heb gyfyngiad, y Rhyngrwyd a’r We (ac eithrio i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn eich defnydd personol chi);
  4. Defnyddio Geiriadur yr Academi ar-lein neu unrhyw ran ohono ar gyfer unrhyw ddiben masnachol.

Mae’r cyfyngiadau hyn yn ddarostyngedig i’r gweithredoedd a bennir mewn statud fel rhai a ganiateir mewn perthynas â gwaith hawlfraint.

Nid yw Comisiynydd y Gymraeg nac unrhyw drydydd person yn gwarantu nac yn sicrhau mewn unrhyw ffordd arall gywirdeb a chyflawnder yr wybodaeth a’r deunydd sydd ar y wefan hon. Cydnabyddwch y gall y fath wybodaeth gynnwys anghywirdebau neu gamgymeriadau ac fe eithriwn yn benodol bob atebolrwydd am y fath anghywirdebau neu gamgymeriadau i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith. Yr ydych chi drwy hyn yn derbyn yn llwyr y risg wrth ddefnyddio’r fath wybodaeth, ac ni fydd Comisiynydd y Gymraeg yn atebol am y fath risg. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y fath wybodaeth yn addas i’ch gofynion.

Cydnabod hawliau

Cynhwysa’r wefan hon ddeunydd a drwyddedir i Gomisiynydd y Gymraeg gan Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones (yr Awduron) a’r Academi Gymreig (yr Academi). Yr ydych yn cydnabod ac yn cytuno mai eiddo’r Awduron a’r Academi yw holl hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill yn y fath ddeunydd.

Ni chewch gopïo na defnyddio unrhyw nod masnach (boed yn gofrestredig neu beidio) na logo neu ddyfais neu nod arall sy’n perthyn i neu’n dynodi Comisiynydd y Gymraeg, yr Academi, yr Awduron neu Geiriadur yr Academi ar-lein heb ganiatâd ysgrifenedig y perchennog.

Ein defnydd ni o gwcis

Oherwydd ystyriaethau preifatrwydd a phryderon ynghylch y defnydd o gwcis i ysbïo ar gyfrifiaduron defnyddwyr, gofynnwn i ddefnyddwyr ddeall beth yw cwcis.

Ffeil fechan yw cwci y mae gwefan yn ei gosod ar ddisg galed eich cyfrifiadur. Mae’n gwneud hyn er mwyn cofio rhywbeth amdanoch y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r wefan honno. Gall cwcis fod yn ffordd hwylus iawn o gofio dewisiadau defnyddwyr, ond gallant hefyd gael eu camddefnyddio i gywain gwybodaeth bersonol.

Yn achos gwefan y Geiriadur yr Academi ar-lein,   rydym wedi gosod cwci er mwyn caniatáu i chi ddefnyddio’r wefan heb orfod clicio ar y botwm “Derbyn” i dderbyn y telerau ac amodau bob tro y byddwch am ddefnyddio Geiriadur yr Academi ar-lein ar yr un cyfrifiadur. Dyna’r cyfan y mae’r cwci hwn yn ei wneud.

Ein defnydd ni o Google Analytics

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr y wefan hon er mwyn gwella’r cynnwys. Mae’r wefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’). Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis a chod JavaScript i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan  yn cael ei chofnodi yn hollol ddi-enw, ei throsglwyddo a’i storio ar weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio adroddiadau am weithgareddau defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd yn ofynnol i wneud hynny’n gyfreithiol, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data  ar eich defnydd di-enw o wefan Geiriadur yr Academi yn y dull ac i’r dibenion a nodwyd uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google a Thelerau Gwasanaeth Llawn Google am y wybodaeth fanwl.

Polisi preifatrwydd

Mae’r polisi hwn yn egluro sut y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn defnyddio ac yn gwarchod unrhyw wybodaeth a roddir gennych. Ymrwymwn i sicrhau bod eich preifatrwydd yn ddiogel.

Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu?

Dim ond y wybodaeth yr ydych chi’n ei chynnig trwy gysylltu â ni drwy’r ddulliau a argymhellir ar y dudalen ‘Cysylltu â ni’ y byddwn ni yn ei chasglu.

Defnyddio’r wybodaeth a gasglwn

Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwn:

  • ar gyfer cofnodion mewnol
  • i wella ein gwasanaeth

Caiff unrhyw wybodaeth bersonol ei thrin yn gyfrinachol ac ni ddatgelwn ddim o’ch gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd person heb eich caniatâd ysgrifenedig penodol chi.

Diogelwch

Ymrwymwn i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. I sicrhau nad oes unrhyw fynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig, mae gennym ddulliau addas i warchod ac i ddiogelu’r wybodaeth a gasglwn ar-lein.