Cyhoeddwyd Geiriadur yr Academi gyntaf yn 1995 gan Wasg Prifysgol Cymru dan olygyddiaeth Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. Ers hynny bu’r geiriadur print drwy sawl adargraffiad, a dymuniad y golygyddion oedd iddo barhau i ddatblygu a thyfu yn adnodd gwerthfawr i ysgolheigion a’r cyhoedd fel ei gilydd.
Yr oedd y geiriadur print gwreiddiol yn eiriadur Saesneg i Gymraeg. Mae modd chwilio’r fersiwn ar-lein gyda rhyngwyneb Saesneg neu ryngwyneb Cymraeg. Gobeithio y cewch fudd a mwynhad o ddefnyddio’r fersiwn ar-lein cyntaf hwn. Mae croeso i ddefnyddwyr yrru neges am eu profiad at post@cyg-wlc.cymru.