Rhagair

Atgynhyrchir yma y rhagair gwreiddiol i argraffiad print cyntaf y geiriadur.


Fel yr Académie française cychwynnodd yr Academi Gymreig yn nhrafodaethau ychydig o lenorion a gyfarfu’n ffurfiol am y tro cyntaf yn Aberystwyth ar 3 Ebrill 1959. Yno penderfynasant sefydlu Academi Gymreig yn cynnwys pedwar ar hugain o aelodau, gwŷr a gwragedd a oedd wedi gwneud cyfraniadau teilwng i lenyddiaeth Gymraeg ac a oedd yn barod i hyrwyddo ei datblygiad drwy gyfarfod yn flynyddol i drin materion llenyddol a thrwy chwilio pob modd o gefnogi a chydnabod cyflawniadau llenyddol. Bu llawer tro yn hanes yr Academi oddi ar hynny, ac un o’r troeon mwyaf arbennig, efallai, oedd cefnogi sefydlu chwaer-gangen, megis, i hyrwyddo llenyddiaeth Eingl-Gymreig.

Penderfynodd yr Académie française yn gynnar yn ei hanes mai un o’i dibenion fyddai perffeithio’r iaith Ffrangeg ac mai un ffordd o wneud hynny fyddai llunio geiriadur. Nid oedd diben felly ym meddyliau sefydlwyr yr Academi Gymreig, a phan ddadleuodd Dr Bruce Griffiths gyda chefnogaeth gref Mr Dafydd Glyn Jones, mewn cyfarfod ym 1974, y dylai’r Academi ymgymryd ar unwaith â llunio geiriadur Saesneg-Cymraeg, bu peth petruso. Wedi’r cwbl, mae llunio geiriadur o unrhyw fath yn orchwyl enfawr a chostus, a Chyngor Celfyddydau Cymru oedd ein hunig gefnogydd ariannol ar y pryd. Sut bynnag, bu brwdfrydedd Dr Griffiths a’i barodrwydd i ymgymryd â’r olygyddiaeth ac addewid Mr Meic Stephens a’r Athro Richard Griffiths am gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru’n ddigon i ddarbwyllo’r Academi i wynebu’r sialens, ac fel ei chadeirydd ar y pryd yr wyf i’n hynod falch ei bod wedi gwneud hynny. Mae’n dipyn o wyrth fod y Gymraeg wedi goroesi dros gynifer o ganrifoedd a bod ei rhagolygon ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif yn oleuach ar un olwg nag yr oeddynt ar ddechrau’r ganrif, yn enwedig gan ei bod wedi gorfod byw am y pared, megis, a’r Saesneg, un o brif ieithoedd y byd gydag argoelion y bydd cyn hir yn brif iaith iddo.

Nid oes raid i ddyn ymddiddori mewn geiriaduraeth er mwyn gwybod fod yr iaith Saesneg yn newid yn ddi-baid ac yn ychwanegu at ei geirfa yn gyson, gyda’r canlyniad fod ei hadnoddau mynegiant bron yn ddi-ben-draw. Pan fo ieithoedd mawr fel Almaeneg a Ffrangeg yn benthyca geiriau o’r Saesneg, nid yw’n rhyfedd fod iaith fach fel y Gymraeg yn gwneud hynny, ac oni all y Gymraeg fod yn gyfrwng cyfathrebu llawn cystal a’r Saesneg ym mhob cylch o fywyd, y mae perygl iddi fynd yn fratiaith a rhoi esgus i’r rhai sy’n teimlo’n isradd wrth ei siarad ei gollwng dros gof. Yn yr amgylchiadau hyn rhaid i siaradwyr yr iaith yn ogystal a’i dysgwyr fod yn ymwybodol o’i holl gyfoeth anferth, ac nid oes dwywaith na fyddant hwy’n croesawu’n frwdfrydig y geiriadur hwn, oblegid ni chyflwynwyd y cyfoeth hwnnw erioed o’r blaen mor helaeth nac erioed mor glir.

Cymerodd y geiriadur hwn fwy o amser i’w lunio nag a fwriadwyd ond y mae hefyd yn llawer helaethach nag y gobeithiwyd. Y mae’r golygydd, Dr Bruce Griffiths, a’r golygydd cyswllt, Mr Dafydd Glyn Jones, wedi treulio rhan fawr o’u hoes yn cyflawni gwaith anodd dros ben. Nid gormod yw dweud fod ar yr Academi Gymreig ddyled iddynt na ellir dychmygu heb sôn am fesur ei maint.

 

J. E. Caerwyn Williams

Llywydd yr Academi Gymreig