Cyfarwyddiadau

Sut i ddefnyddio’r geiriadur hwn

Unwaith i chi dderbyn telerau ac amodau’r fersiwn ar-lein o Geiriadur yr Academi bydd modd i chi chwilio’r geiriadur ar-lein yn ddi-dâl.

Chwilio syml

Y ffordd gyflymaf i chwilio am wybodaeth yn y geiriadur yw drwy deipio gair Saesneg i’r blwch chwilio lle mae’n dweud “Teipiwch air Saesneg yma”, yna pwyso “Enter” (neu’r fysell gyfatebol ar eich cyfrifiadur), neu glicio ar y botwm “Chwilio” wrth ochr y blwch chwilio. Bydd hyn yn mynd â chi yn syth at y cofnod yn y geiriadur y mae’r gair hwnnw yn brifair iddo. Os oes mwy nag un cofnod gyda’r un prifair, bydd yr holl gofnodion sydd â’r prifair hwnnw yn ymddangos. Cofiwch ddefnyddio’r bar sgrolio ar ochr dde eich sgrin i sgrolio lawr i weld diwedd cofnod neu gofnodion hir.

Gwedd draddodiadol a chyfoes

Mae dewis o ddwy ffordd i weld y canlyniadau, sef gwedd gyfoes, a gwedd draddodiadol. Mae’r wedd draddodiadol yn dangos y cofnod yn gryno ar y sgrin yn debycach i sut mae’n ymddangos yn y geiriadur print. Mae’r wedd gyfoes yn dangos y cofnod gyda phob darn gwahanol o wybodaeth yn cael llinell ar wahân ar y sgrin, heb ei gywasgu. Gallwch glicio ar y botwm crwn ar frig y cofnod i newid yn hawdd rhwng y naill wedd a’r llall.

Cofnodion gyda chefndir pinc a chofnodion amherffaith eraill

Mae cefndir pinc i gofnod yn arwydd nad yw’r cofnod hwnnw wedi cael ei adeiladu’n llawn eto, a bod gwaith yn parhau i’w olygu. Mewn achos felly, dim ond y wedd draddodiadol fydd yn dangos, ac mae’r cefndir pinc yn rhybudd nad yw’r holl wybodaeth i’w gweld yn gywir ynddo. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn beri i’r darllenydd, ond mae’r gwaith yn parhau i adeiladu’r cofnodion amherffaith hyn.

Weithiau gall cofnodion sydd heb gefndir pinc ymddangos yn ddiffygiol hefyd. Fel arfer darn o wybodaeth wedi llithro i’r maes anghywir sy’n gyfrifol am hyn. Gofynnwn i chi unwaith eto fod yn amyneddgar wrth i’r gronfa ddata gael ei diwygio a’i diweddaru.

Chwilio Uwch

Mae’r nodwedd Chwilio Uwch yn caniatáu i chi chwilio yn fwy manwl yn y geiriadur am eiriau neu ymadroddion arbennig. Cliciwch ar “Chwilio Uwch” i agor y blwch chwilio uwch a gweld dewisiadau pellach.

Gallwch ddewis chwilio drwy’r Prifeiriau Saesneg neu drwy’r Ymadroddion Saesneg (cliciwch ar y saeth i lawr wrth ochr y blwch chwilio i newid eich dewis).

Chwilio Uwch drwy’r Prifeiriau

Pan fyddwch wedi dewis chwilio drwy’r Prifeiriau Saesneg mae modd i chi fireinio eich ymchwiliad gydag un o dri dewis:
• cyfateb yn union
• dechrau gyda
• gorffen gyda
Fe welwch y dewisiadau hyn yn y gwymplen sy’n agor o glicio ar y saeth i lawr wrth ochr y blwch sydd i’r dde o’r geiriau “am gofnodion sy’n…” . Mae’r dewis cyntaf (cyfateb yn union) yn debyg i’r chwilio syml, ond eich bod yn medru defnyddio hidlau hefyd i fireinio eich chwiliad. Mae’r ddau ddewis arall yn eich galluogi i chwilio am un llythyren, neu nifer o lythrennau ar ddechrau neu ar ddiwedd gair. Unwaith eto mae modd dewis hidlau ychwanegol hefyd gyda’r ddau ddewis hwn.

Dewis Hidlau

Mae hidlau yn eich galluogi i gyfyngu’ch dewis yn ôl parth neu faes pwnc penodol, yn ôl cywair iaith y gair neu’r ymadrodd Saesneg, neu yn ôl defnydd daearyddol y gair neu ymadrodd Saesneg. Cliciwch ar “Dewis Hidlau” i weld y dewisiadau hidlo sy’n cael eu cynnig i chi.

Hidlau meysydd pwnc

Mae’r dewisiadau meysydd pwnc yn y golofn ar y chwith. Gan fod gymaint o fyrfoddau yn perthyn i’r dosbarth hwn yn y geiriadur gwreiddiol, maent wedi’u crynhoi yma o dan feysydd pwnc bras. Mae blwch bychan gydag arwydd plws ynddo wrth ochr y rhain. O glicio arnynt maent yn agor dewisiadau pellach, gyda blwch gwag wrth ochr bob un. Mae modd i chi glicio yn y blychau hyn i’w dewis (bydd tic yn ymddangos yn y blwch) a medrwch dicio cynifer ag y dymunwch er mwyn gweld cofnodion sy’n cynnwys eich chwilair gyda’r dynodiad maes pwnc hwnnw. Bydd eich chwilair wedi’i amlygu mewn melyn o fewn y cofnod neu’r cofnodion perthnasol os cafwyd hyd i’r hyn roeddech yn chwilio amdano.

Bydd y symbol plws yn y blwch wrth ochr y maes pwnc bras yn troi’n symbol minws pan fydd y dewisiadau meysydd pwnc manylach yn cael eu dangos. I guddio’r dewisiadau manylach hynny, cliciwch eto ar y symbol minws yn y blwch. Bydd y dewisiadau manylach yn diflannu, a’r symbol yn y blwch yn troi nôl yn symbol plws. Cofiwch ddad-dicio unrhyw flychau nad ydych eu hangen mwyach cyn eu cuddio, neu byddant yn dal yn effeithio ar eich chwiliad nesaf.

Hidlau cywair iaith a defnydd daearyddol

Gan nad oes cynifer o’r rhain, maent i gyd yn cael eu dangos gyda ticflychau wrth eu hochr i chi fedru eu dethol. Unwaith eto mae modd i chi dicio mwy nag un blwch ar yr un pryd. Sylwch fodd bynnag y bydd llai o siawns i chi gael hyd i gofnodion yn cynnwys y geiriau rydych chi’n chwilio amdanynt os bydd mwy nag un blwch wedi’i ddewis ar yr un pryd. Y rheswm am hyn yw bod y canlyniadau yn rhoi cofnodion sy’n cynnwys pob un o’ch dewisiadau chi (nid ‘naill ai neu’). Cofiwch hefyd fod yn rhaid i chi fod wedi teipio chwilair i mewn yn y blwch chwilio cyn i chi fedru defnyddio’r hidlau neu’r nodweddion chwilio uwch eraill. Unwaith eto cofiwch ddad-dicio unrhyw flychau nad ydych eu hangen mwyach cyn eu cuddio, neu byddant yn dal yn effeithio ar eich chwiliad nesaf.

Chwilio Uwch drwy’r Ymadroddion Saesneg

O ddewis “Ymadroddion Saesneg” (yn hytrach na “Prifeiriau Saesneg”) yn y blwch Chwilio Uwch, gallwch gael hyd i eiriau Saesneg yng nghorff y cofnodion, fel rhan o ymadroddion neu gyfuniadau eraill o eiriau Saesneg. Fe sylwch fod y testun yn y blwch wrth ochr “am gofnodion sy’n…” wedi newid i “cynnwys y chwilair” am mai dyna’r unig fath o chwilio uwch y medrwch ei wneud o ymadroddion. Bydd y chwilair wedi’i amlygu yng nghorff y cofnod neu gofnodion mewn melyn wrth i’r canlyniadau gael eu dangos ar y sgrin.

Dangos nifer o ganlyniadau ar yr un dudalen

Gan y gall fod nifer mawr o ganlyniadau i rai chwiliadau uwch, gosodir cyfyngiad ar y nifer sy’n cael eu dangos ar yr un pryd. Gallwch ddewis gweld 5, 10 neu 20 canlyniad ar bob tudalen. Cliciwch ar y saeth i lawr wrth ochr y blwch “Dangos” i weld y gwymplen er mwyn newid nifer y canlyniadau y dymunwch eu gweld ar un dudalen. Os oes llawer iawn o ganlyniadau, bydd neges yn ymddangos uwchben y canlyniadau cyntaf yn nodi sawl tudalen o ganlyniadau a gafwyd, pa dudalen sy’n cael ei dangos ar hyn o bryd, a botwm “Ymlaen” i’ch galluogi symud drwy’r tudalennau eraill.

Pori trwy’r Geiriadur

Dewis arall yn hytrach na chwilio am air neu eiriau penodol yn y geiriadur yw pori ynddo a chlicio ar lythyren neu brifair i weld cofnod unigol. Mae modd clicio ar unrhyw un o lythrennau’r wyddor sy’n rhedeg ar draws brig y dudalen gartref, gan agor panel ar ochr chwith y dudalen, lle bydd rhestr o’r holl eiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren honno i’w gweld. Mae modd sgrolio i fyny ac i lawr y geiriau hyn gan ddefnyddio saethau i fyny ac i lawr bysellfwrdd eich cyfrifiadur, neu olwyn lywio ar eich llygoden neu ddyfais debyg.

O glicio ar unrhyw air yn y rhestr bori ar y chwith, bydd y gair hwnnw yn cael ei amlygu, a bydd y cofnod y mae’r gair hwnnw yn brifair iddo yn ymddangos. Unwaith eto bydd modd i chi ddewis gweld y cofnod mewn gwedd draddodiadol neu wedd gyfoes drwy glicio ar y botwm perthnasol.

Bydd y rhestr eiriau ar y chwith yn ymddangos hefyd pan fyddwch wedi defnyddio’r nodwedd chwilio. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i chi weld y prifeiriau o boptu prifair y cofnod y bu i chi chwilio amdano, a gweld beth sydd o’i flaen a beth sydd yn ei ddilyn yn ôl trefn yr wyddor.

Gwybodaeth bellach

Ceir llawer iawn o wybodaeth gefndir ddefnyddiol yn y tudalennau a geir o dan y ddewislen “Cefndir” yn y rhuban melyn ar frig pob sgrin yn y geiriadur ar-lein. Maent yn cynnwys Rhagair, Sut i ddefnyddio’r geiriadur, Diolchiadau, Byrfoddau, Gwybodaeth forffolegol a Llyfryddiaeth, gyda’r rhan fwyaf o’r tudalennau hyn wedi’u codi o’r geiriadur print.

I ddewis un o’r tudalennau cefndir hyn, symudwch eich pwyntydd dros yr adran “Cefndir” er mwyn i’r gwymplen ymddangos, wedyn clicio ar y dudalen o’ch dewis chi. Medrwch ddychwelyd i chwilio neu bori’r geiriadur drwy glicio ar “Chwilio” yn y rhuban melyn ar frig y dudalen.